Hunan-wasanaeth Addysg: Derbyniadau ysgolion

Lleoedd ysgol uwchradd

Disgybl ysgol uwchradd yn eistedd wrth ddesg

Gallwch wneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2025 rŵanY dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd yw 4 Tachwedd 2024, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 3 Mawrth 2025.

Lleoedd Iau (blwyddyn 3)

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019. 

Lleoedd derbyn

Plant ysgol Derbyn yn chwarae ar y glaswellt

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021. 

Lleoedd dosbarth meithrin

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022. 

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy rheoli cyfrifon.

Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.

Darganfyddwch sut i newid cais am dderbyniadau os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais

Trosglwyddo ysgolion

Nid oes angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg arnoch os hoffech wneud cais i’ch plentyn drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall.

Canfod mwy am drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall