
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022 oedd 17 Chwefror 2025. Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 6 Mai 2025. Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.